Grŵp Trawsbleidiol ar Glefyd Seliag a Dermatitis Herpetiformis
Cyfarfod ar 13 Mai 2014
Ystafell Gynadledda C
Tŷ Hywel
Cofnodion
Yn bresennol:
Aled Roberts AC, Sandy Mewies AC, Tomos Davies (Swyddfa David Melding), John Williams (Swyddfa Kirsty Williams), Carol Carpenter (Clwyd), Helen Miller (Coeliac UK), Jean Dowding (Caerdydd a Dwyrain Cymru), Bronwen Wilkins (Caerfyrddin), Henry Wilkins (Caerfyrddin), Lindsay Morgan (Abertawe)
Ymddiheuriadau: Llyr Gruffydd AC, Mike Hedges AC.
1. Ethol swyddogion
Cafodd Aled Roberts (AR) ei enwebu'n Gadeirydd newydd gan Carol Carpenter (CC), a chafodd ei eilio gan Jean Dowding (JD).
Cafodd Jackie Radford ei henwebu'n Ysgrifennydd gan Aled Roberts, a chafodd ei heilio gan John Williams.
Gofynnodd Lindsay Morgan fod Mike Hedges yn ddirprwy Gadeirydd pe na fyddai AR ar gael.
Cafodd Llyr Gruffydd AC a Mark Isherwood AC eu hailethol yn swyddogion yn unfrydol.
2. Y wybodaeth ddiweddaraf am ganllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE)
Rhoddodd Helen Miller (HM) y wybodaeth ddiweddaraf i'r cyfarfod am y Canllawiau NICE sydd i ddod. Cafodd y canllawiau NICE ar glefyd seliag eu cyhoeddi am y tro cyntaf ym mis Mai 2009. Maent yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd, gan ehangu'r cwmpas i gynnwys rheoli clefyd seliag, a disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi yn 2015. Mae'r canllawiau NICE ar syndrom coluddyn llidus yn nodi pwysigrwydd eithrio clefyd seliag cyn penderfynu ar ddiagnosis o syndrom coluddyn llidus.
Awgrymodd AR fod Coeliac UK yn ymchwilio i bwy yw cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar NICE i weld a allant helpu i lywio'r broses.
3. Trafodaeth ar ymwybyddiaeth o fwyd heb glwten mewn ysbytai
Bydd hyn yn ymgyrch gan Coeliac UK flwyddyn nesaf. Dylid defnyddio isgell (stock) heb glwten ar bob adeg a byddai tewhau'r holl gyda blawd corn yn gymorth mawr.
Mae angen i bob Bwrdd Iechyd gael rhywun yn edrych ar anghenion deietegol pobl sydd â chlefyd seliag. Mae angen i rywun ysgrifennu at bob bwrdd iechyd i weld pa drefniadau sydd ar waith ar gyfer pobl sydd â chlefyd seliag ar hyn o bryd fel bod gennym ddarlun cyflawn i Gymru.
4. Trafodaeth ar ymwybyddiaeth o groeshalogi wrth baratoi bwyd mewn ysgolion.
Bydd hyn hefyd yn ymgyrch gan Coeliac UK flwyddyn nesaf. Angen ysgrifennu at bob awdurdod addysg lleol i gael gwybod beth yw'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion sydd â chlefyd seliag. Mae'r darlun yn un cymysg iawn ar hyn o bryd; er enghraifft, rhoddodd Bro Morgannwg wybodaeth ragorol ar brydau heb glwten (darparodd Jean Dowding y wybodaeth hon) ond mae gan Castell-nedd Port Talbot ddewisiadau gwael iawn.
5. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd y dylai'r cyfarfodydd nesaf gael eu cynnal yn fwy rheolaidd a byddai'r cyfarfod nesaf yn ystod tymor yr hydref. Jackie Radford, yr ysgrifennydd newydd, fyddai'n gyfrifol am drefnu'r dyddiad a lleoliad.
Unrhyw fater arall
Nododd Lindsay Morgan y byddai'n hoffi i AR gynnal dadl fer ar Glefyd Seliag yn y Siambr. Esboniodd AR broses y balot ar gyfer cynnal dadl fer yn y Senedd. Cytunodd i siarad ag Aelodau Cynulliad eraill y grŵp i weld beth y gellir ei wneud i'r perwyl hwn.